Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1077

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



PENNOD 10

10:1 O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth.

10:2 Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.

10:3 Canys hwynt-hwy, heb wybod cyf¬iawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

10:4 Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu.

10:5 Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.

10:6 Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:)

10:7 Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,)

10:8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregeth;

10:9 Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.

10:10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth.

10:11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

10:12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Ar¬glwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno.

10:13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

10:14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?

10:15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!

10:16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni?

10:17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

10:18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd.

10:19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi.

10:20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.

10:21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.


PENNOD 11

11:1 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin.

11:2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn ei adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,

11:3 O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.

11:4 Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal.

11:5 Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras.