Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1084

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1:11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chloe, fod cynhennau yn eich plith chwi.

1:12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.

1:13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi?

1:14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius;

1:15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun.

1:16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall.

1:17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.

1:18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.

1:19 Canys ysgrifenedig yw. Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.

1:20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

1:21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.

1:22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb:

1:23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb;

1:24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.

1:25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.

1:26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:

1:27 Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn;

1:28 A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd:

1:29 Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.

1:30 Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:

1:31 Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.


PENNOD 2

2:1 A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.

2:2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.

2:3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.

2:4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:

2:5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.

2:6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu.

2:7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni:

2:8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.

2:9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y