Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1089

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:23 Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.

7:24 Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.

7:25 Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.

7:26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly. .

7:27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.

7:28 Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

7:29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;

7:30 A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu;

7:31 A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.

7:32 Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd:

7:33 Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig.

7:34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr.;

7:35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddi-wahân.

7:36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros nodau e ihoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.

7:37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.

7:38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.

7:39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd.

7:40 Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.


PENNOD 8

8:1 Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.

8:2 Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.

8:3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.

8:4 Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un.

8:5 Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)

8:6 Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef,

8:7 Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.

8:8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwyt-