Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1101

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ys¬bryd sydd yn bywhau.

7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;

8 Pa fodd yn hytrach na bydd gwein¬idogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?

9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.

10 Canys hefyd ni ogoneddwyd’yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.

11 Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus

12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:

13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel vn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.

14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen dest-ament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hw-n yng Nghrist a ddileir. : : ‘

15 Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu ealon hwynt.  ;

16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwyddy tynnir ymaith y gorchudd.: ;

17 Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yao y mae rhyddid.

18 Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.


PENNOD 4

1 AM hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu;

2 Eithr ni a ymwrthodasoffl a chuddiiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyftwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. .’.;

3 Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:

4 Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.

5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6 Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7 Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godid-owgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni.

8 Ym mhob peth yr ym yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;

9 Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;

10 Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni.

11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12 Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. ISA chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

14 Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi.

15 Canys pob peth sydd er eich