Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1111

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)

2:9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

2:10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.

2:11 A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio.

2:12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad.

2:13 A’r Iddewon eraill hefyd a gydragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy.

2:14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

2:15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid,

2:16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel yn cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyflawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

2:17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

2:18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.

2:19 Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.

2:20 Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.

2:21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.


PENNOD 3

3:1 O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad-dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi groeshoelio yn eich plith?

3:2 Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych, Ai wrth weithredoedd ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?

3:3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

3:4 A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

3:5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneutur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?

3:6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

3:7 Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.

3:8 A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abram gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.

3:9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.

3:10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt.

3:11 Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: