Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1118

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist:

4:14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:

4:15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist:

4:16 O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corn, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.

4:17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae'r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,

4:18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:

4:19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.

4:20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist,

4:21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu:

4:22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;

4:23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl;

4:24 A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

4:25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.

4:26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:

4:27 Ac na roddwch le i ddiafol.

4:28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.

4:29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.

4:30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

4:31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni:

4:32 A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.


PENNOD 5

5:1 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;

5:2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwrn ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

5:3 Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;

5:4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5:5 Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

5:6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod.

5:7 Na fyddwch gan hynny gyfranogion a hwynt.

5:8 Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

5:9 (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)

5:10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.

5:11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach a gweithredoedd anffrwyth-