Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1124

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch.

4:11 Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.

4:12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder.

4:13 Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.

4:14 Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â'm gorthrymder i.

4:15 A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig.

4:16 Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid.

4:17 Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.

4:18 Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogi peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.

4:19 A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.

4:20 Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

4:21 Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.

4:22 Y mae'r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar.

4:23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.


Epistol Paul yr Apostol at y

Colossiaid.

PENNOD 1

1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,

1:2 At y saint a'r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddio drosoch chwi yn wastadol,

1:4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;

1:5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:

1:6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:

1:7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;

1:8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.

1:9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;

1:10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;

1:11 Wedi eich nerthu â phob nerth