Epistol Paul yr Apostol at yr Hebreaid.
PENNOD 1
1:1 Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab;
1:2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd:
1:3 Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd;
1:4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy.
1:5 Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab?
1:6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf-anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef.
1:7 Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân.
1:8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.
1:9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion.
1:10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:
1:11 Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;
1:12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant.
1:13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed?
1:14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
PENNOD 2
2:1 Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli.
2:2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth;
2:3 Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef:
2:4 A Duw hefyd yn cyd-dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?
2:5 Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
2:6 Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd. Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef?
2:7 Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: a gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo:
2:8 Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.
2:9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r