Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1154

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.

12:14 Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:

12:15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer,

12:16 Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth-fraint.

12:17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.

12:18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl,

12:19 A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt:

12:20 (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell.

12:21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.)

12:22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion,

12:23 I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,

12:24 Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel.

12:25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef:

12:26 Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd.

12:27 A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir.

12:28 Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn:

12:29 Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.


PENNOD 13

13:1 Parhaed brawdgarwch.

13:2 Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod.

13:3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff.

13:4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw.

13:5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith:

13:6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

13:7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.

13:8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.

13:9 Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd.

13:10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta.

13:11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll.