sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
19 A thynned ei holl wer allan o hono, a llosged ar yr allor.
20 A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymmod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.
21 A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynnulleidfa.
22 ¶ Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;
23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffeith-gwbl.
24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, ger bron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
25 A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poeth-offrwm.
26 A llosged ei holl wer ar yr allor, fel gwer yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
27 Ac os pecha neb o bobi y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;
28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffeith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe.
29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.
30 A chymmered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poeth-offrwrm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
31 A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir y gwer oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad, gymmod drosto; a maddeuir iddo.
32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffeith-gwbl.
33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.
34 A chymmered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
35 A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir gwer oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Pennod V.
1 Y neb a bechodd trwy gelu yr hyn a wypo, 2 trwy gyffwrdd â dim aflan: 4 neu trwy lw. 6 Ei offrwm dros ei gamwedd, o’r praidd, 7 o’r adar, 11 o beilliaid. 14 Yr offrwm dros gamwedd mewn cyssegr-ladrad, 17 ac mewn pechodau o anwybod.
Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
3 Neu pan gyffyrddo âg aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.
4 Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
5 A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo;
6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fỳn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod.
7 Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.