1:8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu, yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau a llawenydd anhraethadwy a gogoneddus:
1:9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.
1:10 Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi:
1:11 Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny.
1:12 I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef, ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych.
1:13 Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist;
1:14 Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth:
1:15 Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad.
1:16 Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
1:17 Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad:
1:18 Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi with eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau,
1:19 Eithr a gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd:
1:20 Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi,
1:21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.
1:22 Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth:
1:23 Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.
1:24 Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd:
1:25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.
PENNOD 2
2:1 Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air,
2:2 Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef:
2:3 Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.
2:4 At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.
2:5 A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
2:6 Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir.
2:7 I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,
2:8 Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod