Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1173

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.

1:5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffau chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i'r Arglwydd, wedi iddo waredu'r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.

1:6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.

1:7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd a hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

1:8 Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.

1:9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau a diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.

1:10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

1:11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.

1:12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;

1:13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

1:14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,

1:15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid yn ei erbyn ef.

1:16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.

1:17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;

1:18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.

1:19 Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.

1:20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Ysbryd Glân,

1:21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.

1:22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:

1:23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasau hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.

1:24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,

1:25 I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.