Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1182

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

10:8 A’r llef a glywais o’r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.

10:9 Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi’r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10:10 Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel, ac a’i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

10:11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.


PENNOD 11

11:1 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi.

11:2 Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.

11:3 Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo a sachliain.

11:4 Y rhai hyn yw'r ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw'r ddaear.

11:5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae'n rhaid ei ladd ef.

11:6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.

11:7 A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.

11:8 A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.

11:9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.

11:10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.

11:11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.

11:12 A hwy a glywsant lefuchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl; a'u gelynion a edrychasant arnynt.

11:13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.

11:14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae'r drydedd wae yn dyfod ar frys.

11:15 A'r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef, ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

11:16 A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

11:17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, 0O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod, oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.

11:18 A'r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a'r amser