Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.

7:25 Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd-dra i’r ARGLWYDD dy DDUW ydyw.

7:26 Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.

PENNOD 8

º1 EDRYCHWCH am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynydd-och, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw.

º2 A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.

º3 Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a odderodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnai efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn.



º4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.

º5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.

º6 A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.

º7 Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;

º8 Gwlad gwemth, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mel;

º9 Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.

º10 Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti.

º11 Cadw arnat rhag anghofio yr AR¬GLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:

º12 Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;

º13 A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt:

º14 Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;

º15 Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;

º16 Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anial¬wch a manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

º17 A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

º18 Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i d i beri cyfoeth, fel y cadarnhao xxxxxxxxxx effe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.


º19 Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir.

º20 Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o’ch blaen chwi, feslly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.

PENNOD 9

º1 GWRANDO, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i