Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn ei olwg ef, Q achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dy.

º2 Pan elo hi allan o’i dy ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall:

º3 Os ei gŵr diwethaf a’i casa hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dy; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo:

º4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hyn o flaen yr ARGLWYDD; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr ARGLWYDD dy PDUW i ti yn etifeddiaeth.

º5 Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na redder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.

º6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wysti: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.

º7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.

º8 Gwylia ym mhia y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.

º9 Cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Airft.

º10 Pan fenthyciech i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dy ef i gymryd ei wysti ef.

º11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y ben-thyciaist iddo y gwysti allan atat ti.

º12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg a’i wysti gyda thi.

º13 Gan ddadroddi dyro ei wysti iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW.

º14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:

º15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac a hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr ARGLWYDD yn dy erbyn, a bod pechod ynot.

º16 Na redder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

º17 Na wyra farn y dieithr na’r amddifad; ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.

º18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Ami, a’th waredu o’r ARGLWYDD dy DDUW oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

º19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di yn holl waith dy ddwylo.

º20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

º21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

º22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyftii yn gorchymyn i ti wneuthur y peth byn.

PENNOD 25

º1 PAN fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhant y cyfiawn, a chondemniant y beius.

º2 Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.

º3 Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef a llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.

º4 Na chae safn yen tra fyddo yn dyrnu.

º5 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw