Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD.

11:13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.

11:14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

11:15 Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.

11:16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;

11:17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal-Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.

11:18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

11:19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.

11:20 Canys o’r ARGLWYDD yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorch¬mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

11:21 A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrod¬odd hwynt a’u dinasoedd.

11:22 Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.

11:23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

PENNOD 12 12:1 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain:

12:2 Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

12:3 Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth-jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth-Pisga:

12:4 A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

12:5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

12:6 Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a’i rhoddodd hi yn eti¬feddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

12:7 Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

12:8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

12:9 Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

12:10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;;

12:11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;