Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LLYFR Y BARNWYR

PENNOD 1

1:1 A wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?

1:2 A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.

1:3 A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd. Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.

1:4 A Jwda a aeth i fyny; a’r ARGLWYDD a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr.

1:5 A hwy a gawsant Adoni-besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid.

1:6 Ond Adoni-besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed.

1:7 Ac Adoni-besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno.

1:8 A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.

1:9 Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd.

1:10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaan¬eaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.

1:11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer:)

1:12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.

1:13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.

1:14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

1:15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

1:16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl.

1:17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.

1:18 Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.

1:19 A’r ARGLWYDD oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.

1:20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

1:21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn pres¬wylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebus¬iaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

1:22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r ARGLWYDD oedd gyda hwynt.