celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.
12 A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trwmgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
15 A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.
17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
19 Y Ceneaid, a’r Ceneziaid, a’r Cadmoniaid.
20 Yr Hethiaid hefyd, a’r Phereziaid, a’r Rephaimiaid,
21 Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
Pennod XVI.
1 Sarai, yn ammhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram. 6 Agar, wedi ei chystuddio am ddïystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd. 9 Angel yn ei danfon hi yn ei hol i’w darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.
Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a’i henw Agar.
2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
3 A Sarai, gwraig Abram, a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.
4 ¶ Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi o honi, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.
5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.
6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
7 ¶ Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:
8 Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylaw hi.
10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhâu yr amlhâf dy had di, fel na rifir ef o lïosowgrwydd.
11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.
12 Ac efe a fydd ddyn gwŷllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.
13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?
14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
15 ¶ Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.
16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.
Pennod XVII.
1 Duw yn adnewyddu y cyfammod. 5 Newidio enw Abram, yn arwydd o fendith fwy. 10 Ordeinio enwaedaid. 15 Newidio enw Sarai, a’i bendithio. 16 Addewid o Isaac. 23 Enwaedu ar Abraham ac Ismael.