Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.

6:25 A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:

6:26 Ac adeilada allor i’r ARGLWYDD dy DDUW ar ben y graig hon, yn y lle trefnus, a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm a choed y llwyn, yr hwn a dorri di.

6:27 Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o’i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a’i gwnaeth liw nos.

6:28 A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a’r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a’r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid.

6:29 A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.

6:30 Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri’r llwyn oedd yn ei hymyl hi.

6:31 A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a’i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.

6:32 Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dad¬leued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.

6:33 Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.

6:34 Ond ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.

6:35 Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a’i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i’w cyfarfod hwynt.

6:36 A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;

6:37 Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist.

6:38 Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o’r cnu, lonaid ffiol o ddwfr.

6:39 A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy’r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith.

6:40 A Duw a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.

PENNOD 7

7:1 Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.

7:2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd.

7:3 Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.

7:4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda, thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.