Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.

º25 A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaelh.

º26 A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur;-heblaw y colerau, a’r arogl-bellennau, a’r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.

º27 A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun, Of&a: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i’w dŷ.

º28 Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon. .

º29 A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dy ei hun.,

º30 Ac i Gedeon yr oedd deng mab’a thrigain, a ddaethai o’i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef. .

º31 A’i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichern, a ymddug hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.

º32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.

º33 A phan fu farw Gedeon, yna meib¬ion Israel a ddychwelasant, ac a butein¬iasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt.

º34 Felly meibion Israel ni chofiasant yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u gwaredasai hwynt 6 law eu holl elynion o amgylch;

º35 Ac ni wnaethant garedigrwydd S. thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.

PENNOD 9

º1 A3 Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac a holl dylwyth ty tad ei fam, gan ddywedyd,

º2 Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi.

º3 A brodyr ei fam. a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywed¬asant, Ein brawd ni yw efe.

º4 A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dy Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.

º5 Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i OfEra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwb¬baal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.

º6 A holl wŷr Sichem a holl dy Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.

º7 A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.

º8 Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.

º9 Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m braster, a’r hwn trwof fi yr anrhydeddaM DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

º10 A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren. Tyred di, teyrnasa arnom ni.

º11 Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m melystra, ac a’m fFrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?

º12 Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden. Tyred di, teyrnasa arnom ni.

º13 A’r winwydden a ddywedodd