hadau at frenhin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i?
13 A brenhin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jephthah, O herwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fynu o’r Aipht, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch.
14 A Jephthah a anfonodd drachefn genhadau at frenhin meibion Ammon;
15 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jephthah; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon:
16 Ond pan ddaeth Israel i fynu o’r Aipht, a rhodio trwy yr anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades;
17 Yna Israel a anfonodd genhadau at frenhin Edom, gan ddywedyd, Gad i mi dramwy, attolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenhin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenhin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades.
18 Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab.
19 Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenhin yr Amoriaid, brenhin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gâd i ni dramwy, attolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre.
20 Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahaz, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.
21 Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno.
22 Meddiannasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen.
23 Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a’i meddiennit hi?
24 Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgyno yr Arglwydd ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau.
25 Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenhin Moab? a ymrysonodd efe erioed âg Israel, neu gan ymladd â ymladdodd efe i’w herbyn hwy?
26 Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd, ac yn Aroer a’i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chàn mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw?
27 Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddyw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.
28 Er hynny ni wrandawodd brenhin meibion Ammon ar eiriau Jephthah, y rhai a anfonodd efe atto.
29 ¶ Yna y daeth yspryd yr Arglwydd ar Jephthah; ac efe a aeth dros Gilead a Manasseh; ac a aeth dros Mispah Gilead, ac o Mispah Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.
30 A Jephthah a addunedodd adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;
31 Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a’i hoffrymmaf ef yn boeth-offrwm.
32 ¶ Felly Jephthah a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn: a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef.
33 Ac efe a’u tarawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34 ¶ A Jephthah a ddaeth i Mispah i’w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond y hi.
35 A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un