Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º27 A meibion Israel a ymgyngorasaat a’r ARGLWYDD, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny;

º28 A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr ARGLWYDD, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.

º29 Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.

º30 A meibion Israel a aethant i .fyay yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt.

º31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ DDUW, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.

º32 A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywed¬asant, Flown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd.

º33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal-tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.

º34 A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.

º35 A’r ARGLWYDD a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum, mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.

º36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.

º37 A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.

º38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas.

º39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: c nys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf.

º40 A phan ddechreuodd y fflam ddyr¬chafu o’r ddinas a cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd.

º41 Yna gwŷr Israel a-droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oher¬wydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.

º42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.

º43 Felly yr amgylchynasant y Ben¬jaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.

º44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.

º45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bûm mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.

º46 A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bûm mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wvr nerthol.

º47 Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.

º48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.

PENNOD 21

º1 A GWŶR Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni