Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi.

º11 Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma?

º12 Hwythau a’u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o’th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa.

º13 Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi a’i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef.

º14 A hwy a aethant i fyny i’r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod, i fyned i fyny i’r uchelfa.

º15 A’r ARGLWYDD a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd.

º16 Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf.

º17 A phan ganfu Samuel Saul, yr AR¬GLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl.

º18 Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae ty y gweledydd.

º19 A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.

º20 Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae hoB bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad?

º21 A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?

º22 A Samuel a gymerth Saul a’i lane, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain.

º23 A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi.

º24 A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn oedd arni, ac a’i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a’wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.

º25 A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ.

º26 A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddy¬wedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.

º27 Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gŵr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

PENNOD 10

º1 YNA Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?

º2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddy¬wedyd, Beth a wnaf am fy mab?

º3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd tri wŷr yn