Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/297

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.

PENNOD 11

º1 YNA Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddy¬wedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di.

º2 A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf a chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel.

º3 A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniata i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

º4 A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

º5 Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

º6 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

º7 Ac efe a gymerth bar o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.

º8 A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.

º9 A hwy a ddywedasant wrth y cen¬hadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.

º10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywed¬asant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.

º11 A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

º12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.

º13 A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel.

º14 Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddorn y frenhiniaeth yno.

º15 A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr ARGLWYDD. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

PENNOD 12

º1 A SAMUEL a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.

º2 Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn.

º3 Wele ft; tysdolaethwch i’m herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi.

º4 A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.

º5 Dywedodd yntau wrthynt, Yr ARGLWYDD sydd dyst yn eich er-