º1 ABU ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad.
º2 A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr;
º3 Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr AR¬GLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.
º4 A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.
º5 A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea.
º6 A dywedodd Jonathan with y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef. Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig.
º7 A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef fi ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll ydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.
º8 Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.
º9 Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y spfwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.
º10 Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch .i fyny atom ni, yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.
º11 A hwy a ymddangosasant ill dau i amddinynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyilau y llechasant ynddynt.
º12 A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau. Tyred i fyny ar fy ôl: eanys yr ARGLWYDD a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel.
º13 A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd Qedd yn lladd ar ei ôl ef.
º14 A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir.
º15 A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddinynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd, a bu dychryn Duw.
º16 A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwas garu, ac yn myned dan ymguro.
º17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ‘ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno.
º18 A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Dew y pryd hynny gyda meibion Israel.)
º19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan a’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwcrsyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law.
º20 A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn cedd yno.
º31 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a etroesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
º22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel.
º23 Felly yr achubodd yr ARGLWYDD