ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th atteliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
7 Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gwr; oherwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddïau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.
8 Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
9 Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd o honof fi. Yn ddïau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.
12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed am danaf fi, Fy mrawd yw efe.
14 Yna y cymmerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sarah ei wraig drachefn.
15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
16 Ac wrth Sarah y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyd â thi, a chyd â phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
17 ¶ Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.
18 O herwydd yr Arglwydd gan gau a gauasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sarah gwraig Abraham.
Pennod XXI.
1 Genedigaeth Isaac, 4 a’i enwaediad. 6 Llawenydd Sarah. 9 Bwrw Agar ac Ismael allan. 15 Agar mewn cyfyngdra. 17 Yr angel yn ei chysuro hi. 22 Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer-seba.
A’r Arglwydd a ymwelodd â Sarah fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sarah fel y llefarasai.
2 O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef.
3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef.
5 Ac Abraham oedd fab càn mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 ¶ A Sarah a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyd â mi.
7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoisai Sarah sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8 A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9 ¶ A Sarah a welodd fab Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaeth-forwyn hon a’i mab; o herwydd ni chaiff mab y gaethes hon gyd-etifeddu â’m mab i Isaac.
11 A’r peth hyn fu ddrwg iawn y’ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12 ¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymmerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, (gan osod ar ei hysgwydd hi hynny,)