och yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.
º11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i .wyr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a . aethant i fyny i Jesreel.
PENNOD 30
º1 A PHAN ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân.
º2 Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasenf hwy .ymaith, ac aethent i’w ffordd.
º3 Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid.
º4 Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd Had oedd nerth ynddynt i wylo.
º5 Dwy wraig Dafydd hefyd a gaeth? gludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abi¬gail, gwraig Nabal y Carmeliad.
º6 A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, Bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr ARGLWYDD ei DDUW.
º7 A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad) mab Ahimelech, Dwg i’ mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.
º8 A Dafydd a ymofynnodd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A erlidiaf fi sa ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? ‘Ac efe a ddywedodd wrtho, Eriid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
º9 Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.
º10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel iia allent fyned dros afon Besor.
º11 A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a’i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a’i diodasant ef a dwfr.
º12 A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwyt¬aodd, a’i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.
º13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o’r Ain’r ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a’m meistr a’m gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.
º14 Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a’r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.
º15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned a mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i DDUW, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af a thi i waered at y dorf hon.
º16 Ac efe a’i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.
º17 A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.
º18 A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig.
º19 Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy i ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref. !
º20 Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.
º21 A Dafydd a ddaeth at y ddau can¬nwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i