Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/324

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod.

1:24 Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgariad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.

1:25 Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.

1:26 Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.

1:27 Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!

PENNOD 2

2:1 Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.

2:2 A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.

2:3 A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un a’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.

2:4 A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.

2:5 A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef.

2:6 Ac yn awr yr ARGLWYDD a wnelo fi chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.

2:7 Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.

2:8 Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim;

2:9 Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.

2:10 Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd.

2:11 A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.

2:12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.

2:13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y hyn o’r tu arall.

2:14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.

2:15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.

2:16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.

2:17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.


2:18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes.:

2:19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.:

2:20 Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.

2:21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef.