Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd DDUW, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.

PENNOD 8

º1 AC wedi hyn trawodd Dafydd y Philist-—A iaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-amma o law y Philistiaid.

º2 Ac efe a drawodd Moab, ac a’u tnesurodd hwynt a llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fcsurodd â dau linyn, i ladd; ac a llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Da¬fydd yn weision, yn dwyn treth.

º3 Trawodd Dafydd hefyd Hadad-eser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates.

º4 A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Da¬fydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

º5 A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

º6 A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe.

º7 Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem.

º8 O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.

º9 Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser;

º10 Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo:

º11 Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe;

º12 Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba.

º13 A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.

º14 Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth etc.

º15 A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w hull bobl.

º16 A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

º17 A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd:

º18 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Peiethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.

PENNOD 9

º1 A DAFYDD a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?

º2 Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.

º3 A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed.

º4 A dywedodd y brenin wrtho. Pa te y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Arnmiel, yn Lo-debar.

º5 Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dy Machir, mab Ammi’el, o Lo-debar.

º6 A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Da-