Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/335

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º14 Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.

º15 A Nathan a aeth i’w dŷ.A’r AR¬GLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn.

º16 Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos.

º17 A henuriaid ei dy ef a gyfodasant .ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt.

º18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?

º19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw.

º20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd.

º21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara.

º22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn?

º23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.

º24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef.

º25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.

º26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas.

º27 A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd.

º28 Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi.

º29 A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi.

º30 Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn.

º31 Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem.

PENNOD 13

º1 A ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi.

º2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi.

º3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn.

º4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac’ Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd.

º5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymmer