Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/338

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr. 12 Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. 13 A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr. 14 Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho. 15 Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn. 16 Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw. 17 A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi. 18 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin. 19 A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn: 20 Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.

21 A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl. 22 A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was. 23 A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem. 24 A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. 26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. 27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.

28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. 29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. 30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. 31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? 32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. 33 Yna Joab a ddaeth at y bren-