Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/340

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. 23 A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.

24 Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. 25 A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. 26 Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. 27 A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. 28 Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. 29 Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.

30 A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.

31 A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.

32 A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. 33 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: 34 Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. 35 Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. 36 Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. 37 Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.

PENNOD XVI.

Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. 2 A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. 3 A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. 4 Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.

5 A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. 6 Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r