weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon.
º8 Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.
º9 Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom.
º10 Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb son am gyrchu y brenin drachefn?
º11 A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dy? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ.
º12 Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adrcf?
º13 Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth.
º14 Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision.
º15 Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod a’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.
º16 A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfar¬fod a’r brenin Dafydd.
º17 A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas ty Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.
º18 Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simci mab Gcra a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;
º19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon.
º20 Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dy Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod a’m harglwydd frenin.
º21 Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo fell-tithio eneiniog yr ARGLWYDD?
º22 A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf a chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?
º23 A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.
º24 Mcffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod a’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.
º25 A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod a’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?
º26 Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was.
º27 Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.