Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/356

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.

2:11 A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrn¬asodd efe yn Jerwsalem.

2:12 A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a’i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.

2:13 Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddy¬wedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.

2:14 Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.

2:15 Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i’m brawd: canys trwy yr ARGLWYDD yr aeth hi yn eiddo ef.

2:16 Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddy¬wedodd wrtho, Dywed.

2:17 Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.

2:18 A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.

2:19 Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eis¬teddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.

2:20 Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni’th omeddaf.

2:21 A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.

2:22 A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hyn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.

2:23 A’r brenin Solomon a dyngodd i’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.

2:24 Yn awr gan hynny, fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a’m sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.

2:25 A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

2:26 Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i’th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.

2:27 Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r ARGLWYDD; fel y cyflawnai air yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.

2:28 A’r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr ARGLWYDD, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.

2:29 A mynegwyd i’r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr ARGLWYDD; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddy¬wedyd, Dos, rhuthra arno ef.

2:30 A daeth Benaia i babell yr AR¬GLWYDD, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Joab, ac fel hyn y’m hatebodd.

2:31 A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.

2:32 A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd