Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/369

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

º26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem.

º27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

º28 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.

º29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a ai allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.

PENNOD XI.

º1 OND y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau;

º2 O’r cenhedloedd am y rhai y dyweA". asai yr ARGLWYDB wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duw-iau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.

º3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef.

º4 A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duw-iau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.

º5 Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom (Beidd-dra yr Ammoniaid.

º6 A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.

º7 Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieiddira meibion Ammon.

º8 Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogl-darthasant ac a aberthasant i’w duwiau.

º9 A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith,

º10 Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmyn¬asai yr ARGLWYDD.

º11 Am hynny y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyf-amod â’m deddfau a orchmynnais i ti, gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di.

º12 Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi.

º13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalera yr hon a etholais.

º14 A’r ARGLWYDD a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe.

º15 Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom;

º16 (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno a holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:) .tf Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto.

º18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a r&ddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo.

º19 A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn raig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.

º20 A chwaer Tahpenes a ymddug