i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon.
º22 Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,
º23 Adrodd wrth Rehoboam mab Sol¬omon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,
º24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dych¬welwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD.
º25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeilad¬odd Penuel.
º26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.
º27 Os a y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.
º28 Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a «| wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd I’ wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
º29 Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.
º30 A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. _
º31 Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.
º32 A Jeroboam a wnaeth uchel wyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, fel yr uchel wyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaeth¬ai efe.
º33 Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogl-darthu.
PENNOD XIII.
º1 AC wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, *~ trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu.
º2 Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.
º3 Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir.
º4 A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.
º5 Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr ‘ argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr ARGLWYDD.
º6 A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, ger¬bron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr AR¬GLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.
º7 A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.
º8 A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner