yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.
º33 Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd.
º34 A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.
PENNOD XIV.
º1 Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam.
º2 A Jeroboam a ddywedodd wrth ei. wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahia y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma.
º3 A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen.
º4 A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahia. Ond ni allai Ahia weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint.
º5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ahia, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra.
º6 A phan glybu Ahia drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys’ myfi a anfonwyd atat ti a newyddion caled.
º7 DOS, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Yn gymaint a darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn, flaenor ar fy mhobl Israel,
º8 A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i a’i holl galon, i wneuth¬ur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i;
º9 Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn:
º10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dy Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeed.g a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod.
º11 Y cwn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr ARGLWYDD a’i dywed¬odd.
º12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen.
º13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jero¬boam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at ARGLWYDD DDUW Israel, yn nhŷ Jeroboam.
º14 Yr ARGLWYDD hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dy Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr.
º15 Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oher¬wydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint.
º16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu.
º17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen.
º18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y proffwyd.
º19 A’r rhan arall o weithredoedd Jero¬boam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn