Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/376

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron.

º14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd xxx: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef.

º15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri.

º16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

º17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

º18 Yna Asa a gymerodd yr holl arias a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau t y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision; a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab TabRimmon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

º19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

º20 Felly Benhadad a wrandawodd af y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel-bethmaacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.

º21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.

º22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd a hwynt Geba Benjamin, a Mispa.

º23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed.

º24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º25 A Nadab mab Jeroboam a dfccfareuodd deyrnasu ar Israel yn yr afl flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrn asodd ar Israel ddwy flynedd.

º26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef a’ hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

º27 A Baasa mab Ahia, o dŷ Issachar* a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.

º28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedB flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef.

º29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad:

º30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel.

º31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Israel?

º32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

º33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.

º34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

PENNOD XVI.

º1 VT NA y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd,

º2 Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot