Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at Abimelech brenhin y Philistiaid i Gerar.

2 A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aipht: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.

3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.

4 A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:

5 Am wrandaw o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwriaeth, fy ngorchymynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.

6 ¶ Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeccah: canys yr ydoedd hi yn dêg yr olwg.

8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenhin y Philistiaid edrych trwy y ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeccah ei wraig.

9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddïau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd o honof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.

10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyd â’th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.

11 A gorchymynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gwr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.

12 Ac Isaac a hauodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y càn cymmaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef.

13 A’r gwr a gynnyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.

14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.

15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u cauasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd.

16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.

17 ¶ Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.

18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gauasai y Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ol yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.

19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.

20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt âg ef.

21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitnah.

22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.

23 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beer-seba.

24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.

25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26 ¶ Yna y daeth Abimelech atto ef o Gerar, ac Ahuzzath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.

27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi attaf fi; gan i chwi fy nghasâu, a’m gyrru oddi wrthych?

28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr