Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/385

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º15 A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw.

º16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i win¬llan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.

º17 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,

º18 Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu.

º19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed dithau hefyd.

º20 A dywedodd Ahafa wrth bleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º21 Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel:

º22 A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.

º23 Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cwn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel.

º24 Y cwn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd.

º25 Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef.

º26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf.

º28 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,

º29 Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef.

PENNOD XXII.

º1 A BUANT yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.

º2 Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel.

º3 A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw RamothGilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?

º4 Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i RamothGilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

º5 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw a gair yr ARGLWYDD.

º6 Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.

º7 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

º8 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni;