yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid.
4:36 Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab.
4:37 A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.
4:38 Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.
4:39 Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.
4:40 Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta.
4:41 Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.
4:42 A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont.
4:43 A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill.
4:44 Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
PENNOD 5 5:1 A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar¬glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.
5:2 A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.
5:3 A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachai ef o’i wahanglwyf.
5:4 Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel.
5:5 A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad.
5:6 Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i; wahanglwyf.
5:7 A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.
5:8 A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel.
5:9 Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. .
5:10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir.
5:11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachai y gwahan-glwyfus.