yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.
º31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
º32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;
º33 O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.
º34 A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
º35 A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deymasodd yn ei le ef.
º36 A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu as Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.
PENNOD 11
º1 A PHAN welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol.
º2 Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na ladd-royd ef.
º3 Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.
º4 Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth a hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin.
º5 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin:
º6 A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.
º7 A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin.
º8 A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un a’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.
º9 A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.
º10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD.
º11 A’r swyddogion a safasant bob un a5i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin.
º12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.
º13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.
º14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
º15 A Jehoiada yr offeiriad a orchy-