Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/404

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

º17 Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerw¬salem.

º18 A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

º19 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º20 A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.

21 A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 13 º1 YN y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.

º3 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.

º4 A Joahas a erfyniodd ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yr ARGLWYDD arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrynaai hwynt.

º5 (A’r ARGLWYDD a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.

º6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.)

º7 Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl;, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.

º8 A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º9 A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.

º11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt.

º12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

º13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.

º14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion.

º15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau.