Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.

º13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Bethsemes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o borth Effraim hyd borth y gongi, bedwar can cufydd.

º14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.

º15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel?

16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.

º18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda?

º19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ai erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.

º20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

º21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

º22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.

º23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.

º24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

º25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o GathHeffer.

º26 Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel.

º27 Ac ni lefarasai yr ARGLWYDD y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.

º28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus, a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici hrenhinoedd Israel?

º29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 15 º1 "YN y seithfed flwyddyn ar hugain i * Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda.

º2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.

º3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef:

º4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

º5 A’r ARGLWYDD a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilitu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad.

º6 A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid yd-