Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/409

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd-offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd-offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd-offrwm hwynt, a’u diodydd-offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a’ daenelli di arni hi; a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.

º16 Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.

I7 A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig.

º18 A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa’r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD, o achos brenin Asyria.

º19 A’r rhan arall o hanes Abas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º20 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 17 º1 YN y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef.

º3 A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

º4 A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy.

º5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.

º6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

º7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

º8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel.

º9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgcl bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac a adeil¬adasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

º10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irias:

º11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r ARGLWYDD.

º12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

º13 Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.

º14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw.

º15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe a’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd