Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/416

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Jwda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

º12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant.

º13 A mi a estynnaf linyn mesur Sami aria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb.

º14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion:

º15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn.

º16 Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º17 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º18 A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dy ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem: ac enw ei fam ef oedd Mesul-emeth, merch Harus o Jotba.

º20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

º21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac ‘ a ymgrymodd iddynt:

º22 Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

º23 A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dy ei hun.

º24 A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

º25 A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 22 º1 MAB wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd’ yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

º3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º4 DOS i fyny at Hiloeia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gasglodd ceid-waid y drws gan y bobl:

º5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar.dy yr ARGLWYDD; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio agennau y tŷ, i

º6 I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r ‘. seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i adgyweirio’r tŷ.

º7 Eto ni chyfrifwyd a hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

º8 A Hiloeia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr AR¬GLWYDD: a Hiloeia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef.

º9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth