Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/421

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.

º14 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu a hwynt, a ddygasant hwy ymaith.

º15 Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.

º16 Y ddwy golofn, yr un mor, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.

º17 Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd ami; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, a phlethwaith.

º18 A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffancia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws.

º19 Ac o’r ddinas efe a gymerth ystaf-ellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a. phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

º20 A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla.

º21 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.

º23 Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.

º23 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt-hwy a’u gwyr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa/ sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maach-athiad, hwynt a’u gwŷr.

º24 A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

º25 Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o’r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fcl y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.

º26 A’r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid.

º27 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy.