Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael; yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.

7:12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.

7:13 Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.

7:14 Meibion Manasse; Asriel, yr hwn, a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead:

7:15 A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salflaad: ac i Salffaad yr oedd merched.

7:16 A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem.

7:17 A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.

7:18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.

7:19 A meibion Semida oedd, Ahïan, Sechem, a Lichi, ac Aniham.

7:20 A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,

7:21 A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn en hanifeiliaid hwynt.

7:22 Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef.

7:23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef.

7:24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth-horon yr isaf, a’r uchaf hefyd, ac Ussen-sera.)

7:25 A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau,

7:26 Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,

7:27 Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.

7:28 A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi:

7:29 Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth-sean a’i phentrefi, Taanach a’i phentrefi, Megido a’i phentrefi. Dor a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.

7:30 Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt.

7:31 A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith.

7:32 A Heber a genhedlodd Jaffiet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.

7:33 A meibion Jafflet; Pasaeh, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet.

7:34 A meibion Samer Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram.

7:35 A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal.

7:36 Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra,

7:37 Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera.

7:38 A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara.

7:39 A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia.

7:40 Y rhai hyn oll oedd feibion Asar, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau-captainiaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.

PENNOD 8

º1 BENJAMIN hefyd a genhedlodd Bela -Li ei gyntaf-anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, a Noha y pedwerydd, a Rafla y pumed.

º3 A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,

º4 Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa

º5 A Gera, a Seffuffan, a Huram. Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau-cenedl preswylwyr Geba a fawy a’u mudasant hwynt i Manahath;

º7 Naaman hefyd, ac Ama, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.