Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/435

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º42 Adina mab Sisa y Reubeniad, peni-naeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg;ar hugain,

º43 Hanan mab Maacha, a Josaffat. y Mithniad,

º44 Usseia yr Asterathiad, Sama a J hiel, meibion Hothan yr Aroeriad,,

º45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd <f,yTisiad,

º46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia meibion Einaam, ac Ithma y Moabiad,

º47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

PENNOD 12

º1 A DYMA y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel,

º2 Yn arfogion a xxxxx bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin.

º3 Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel’.a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad,

º4 Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd

ttefe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanaia, a Josabad y Ged-erathiad,

º5 Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Sema-reia, Seffatia yr Haruffiad.

º6 Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, -

º7 A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor.

º8 A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac .megis iyrchod ar y mynyddoedd o ‘ fuander oeddynt hwy.

º9 Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd,;

º10 Mismanna ypedwerydd, Jeremeia y pumed,

º11 Attai y chweched, Eliel y seithfed,

º12 Johanan yr wythfed, Elsabad y naw-fed,

º13 Jeremeia y .degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.

º14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil.

º15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyfirynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin.

º16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Da¬fydd.

º17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un a chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.

º18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywed¬odd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y.byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.

º19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, ‘wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.

º20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a A-Iichael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.

º21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.

º22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo:. ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

º23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD.