Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/455

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:1 Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

4:2 Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.

4:3 A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi am¬gylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4:4 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

4:5 A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili; a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

4:6 Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo.

4:7 Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy.

4:8 Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

4:9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.

4:10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.

4:11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ DDUW:

4:12 Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:

4:13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bom¬granadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.

4:14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;

4:15 Un môr, a deuddeg o ychen dano:

4:16 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o bres gloyw.

4:17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.

4:18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

4:19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a’r allor aur, a’r byrddau oedd a’r bara gosod arnynt,

4:20 A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;

4:21 Y blodau hefyd, a’r lampau, a’i gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.

4:22 Y saltringau hefyd, .a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

PENNOD 5 5:1 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ DDUW, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.

5:2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.

5:3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.

5:4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch.

5:5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny.

5:6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg,